#
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:
Rhif y ddeiseb: P-05-861 Teitl y ddeiseb: Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd. Testun y ddeiseb: Dylai addysg roi'r sgiliau a'r offer i bobl ifanc a fydd yn sicrhau eu bod yn dod yn ddinasyddion gwerthfawr sy'n ymgysylltu â'r wlad. Er gwaethaf y datblygiadau mawr sydd wedi digwydd yn sgil y cyfryngau cymdeithasol a chylchoedd newyddion cyflym, mae pobl ifanc yn aml yn ystyried gwleidyddiaeth yn bwnc tabŵ, gan ei weld fel mater nad ydyw i'w tebyg hwy. Rydym yn credu y dylai pobl ifanc adael addysg gyda dealltwriaeth gynhwysfawr o sefydliadau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig. Argymhellodd adroddiad y Gymdeithas Diwygio Etholiadol y dylid addysgu pedair agwedd allweddol mewn ysgolion – y pleidiau, democratiaeth, rôl sefydliadau ac ymgyrchu. Ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle unigryw i arwain y ffordd ar y mater hwn gan ei bod wrthi'n datblygu ei chwricwlwm cenedlaethol cyntaf. Fel un o'i bedwar cysyniad allweddol, nod y cwricwlwm newydd yw creu dinasyddion “moesegol a gwybodus”. Felly mae rheswm yn dweud y dylai addysg wleidyddol fod yn rhan hanfodol o hyn. Mae datblygiad y cwricwlwm hwn yn gyfle unigryw i Lywodraeth Cymru chwyldroi'r ffordd y mae'n addysgu ei phobl ifanc, gan greu'r dinasyddion a fydd yn arweinwyr y dyfodol. |
1. Cynnwys y cwricwlwm
Ar hyn o bryd, mae cwricwlwm ysgol Cymru yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddeall egwyddorion a system democratiaeth, gan gynnwys sut y gall pobl ifanc ddylanwadu ar y gwaith o wneud penderfyniadau. Yn bennaf, mae ysgolion yn trafod y pynciau hyn trwy addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) ac yn canolbwyntio ar ddatblygu 'Dinasyddiaeth Weithgar', sy'n un o'r pum thema yn Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru (2008) anstatudol Llywodraeth Cymru.
Mae ABCh yn ofyniad cwricwlwm statudol ac mae'n rhan o'r cwricwlwm sylfaenol ar gyfer pob disgybl cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir sydd o oedran ysgol gorfodol. Penaethiaid a'u llywodraethwyr sy'n gyfrifol am benderfynu ar union gynnwys a model cyflwyno rhaglen ABCh yr ysgol, gan weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid lleol eraill.
O fewn elfen 'Dinasyddiaeth Weithgar' y fframwaith ABCh, dylai dysgwyr 'ddatblygu dealltwriaeth ymarferol o’u hawliau a’r cysylltiadau rhwng penderfyniadau gwleidyddol a’u bywydau eu hunain'.
Yng Nghyfnod Allweddol 2, dylid rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddeall 'pwysigrwydd gwneud penderfyniadau mewn modd democrataidd'. Yng Nghyfnod Allweddol 3, dylid rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddeall:
§ egwyddorion democratiaeth yng Nghymru, y DU a’r UE;
§ sut y caiff cynrychiolwyr, e.e. Cyngor Ysgol, Fforwm Ieuenctid, Y Ddraig Ffynci, Cynghorwyr, Aelodau’r Cynulliad, Aelodau Seneddol, Aelodau Seneddol Ewropeaidd, eu hethol, a deall eu swyddogaethau
§ sut y gall pobl ifanc leisio’u barn a dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau.
Yng Nghyfnod Allweddol 4, dylid rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddeall 'pwysigrwydd cymryd rhan mewn etholiadau democrataidd a’r cysylltiadau rhwng penderfyniadau gwleidyddol a’u bywydau eu hunain'.
Mae Deddf Addysg 1996 yn ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid, cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol sicrhau bod disgyblion yn cael barn gytbwys os cânt eu haddysgu ynghylch democratiaeth a gwleidyddiaeth. Mae Adran 406 o Ddeddf Addysg 1996 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a phenaethiaid i wahardd disgyblion iau rhag dilyn gweithgareddau gwleidyddol pleidiol yn yr ysgol. Mae hefyd yn gwahardd hyrwyddo safbwyntiau gwleidyddol pleidiol wrth addysgu unrhyw bwnc i unrhyw ddisgybl. Lle mae gweithgareddau yn cael eu cynnal i ffwrdd o safle'r ysgol, ni chaniateir i ddisgyblion iau gymryd rhan os ydynt wedi'u trefnu gan unrhyw aelod o staff mewn ysgol neu unrhyw un sy'n gweithredu ar ran yr ysgol.
2. Cwricwlwm Newydd i Gymru (i'w gyflwyno o fis Medi 2022)
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r proffesiwn addysg i ddatblygu cwricwlwm newydd, yn dilyn adolygiad annibynnol yr Athro Graham Donaldson o drefniadau cwricwlwm ac asesu a'i adroddiad dilynol, Dyfodol Llwyddiannus (Chwefror 2015).
Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r pedwar diben canlynol o'r cwricwlwm newydd fel yr argymhellwyd gan yr Athro Donaldson, sef y bydd pob plentyn a pherson ifanc sy’n cwblhau eu haddysg yn:
§ Ddysgwyr uchelgeisiol a galluog sydd yn barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau.
§ Cyfranwyr mentrus, creadigol sydd yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
§ Dinasyddion gwybodus, moesegol, sydd yn barod i fod yn ddinasyddion o Gymru a’r byd.
§ Unigolion iach hyderus sydd yn barod i arwain bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi mabwysiadu'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad a argymhellwyd gan yr Athro Donaldson:
§ Celfyddydau Mynegiannol
§ Iechyd a Lles
§ Dyniaethau
§ Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
§ Mathemateg a Rhifedd
§ Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno'n statudol ym mis Medi 2022. Bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno i ddechrau mewn ysgolion cynradd a Blwyddyn 7 ym mis Medi 2022, cyn cael ei gyflwyno i flwyddyn 8 ar gyfer 2023, blwyddyn 9 yn 2024, ac yn y blaen wrthi'n garfan symud drwy'r ysgol.
Cyn iddo gael ei gyflwyno'n statudol, bydd y cwricwlwm newydd ar gael i ysgolion adborth yn ôl, profi a mireinio o fis Ebrill 2019, cyn i fersiwn derfynol gael ei gyhoeddi y gall ysgolion gael gafael arni o fis Ionawr 2020.
Mae ysgolion arloesi yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, consortia addysg rhanbarthol ac arbenigwyr a chynghorwyr drwy chwe Gweithgor – un ar gyfer pob un o'r Meysydd Dysgu a Phrofiad newydd. Mae'r grwpiau hyn wedi llunio datganiadau 'Beth sy'n Bwysig?' yn nodi'r syniadau diweddaraf ar gynnwys y cwricwlwm a phynciau allweddol.
Yn eu datganiad 'Beth sy'n Bwysig?', a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017, nododd y Gweithgor Meysydd Dysgu a Phrofiad Dyniaethau y canlynol ymysg y dibenion ar gyfer maes hwn o'r cwricwlwm:
Drwy ddeall a pharchu gwahanol gredoau a deall sut i arfer eu hawliau a'u cyfrifoldebau democrataidd, bydd disgyblion yn dod yn ddinasyddion moesegol, hyddysg.
Drwy arddel barn bersonol am faterion yn ymwneud â ffydd, ysbrydolrwydd, cynaliadwyedd a chynhwysiant cymdeithasol byddant yn dod yn unigolion iach, hyderus, sy'n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Mae datganiad y grŵp hefyd yn cynnig:
Bydd disgyblion yn:
• deall cysyniadau hanesyddol, daearyddol, gwleidyddol, economaidd, crefyddol a chymdeithasol.
• archwilio eu hamgylchedd er mwyn datblygu eu hymdeimlad o le a lles ymhellach.
• cymryd rhan mewn profiadau dysgu am hawliau, gwerthoedd, moeseg, credoau, crefydd, athroniaeth ac ysbrydolrwydd.
• ystyried, archwilio a gwneud dewisiadau hyddysg ynghylch cynaliadwyedd a'r effaith ar eu gweithredoedd.
• gwneud cyfraniad cadarnhaol at eu cymuned ac ymgysylltu â materion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ar lefel gritigol er mwyn dod yn ddinesydd cyfrifol yng Nghymru a thu hwnt.
3. Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol
Roedd adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol, Senedd sy'n gweithio i Gymru (Tachwedd 2017), mewn cysylltiad â gostwng yr oedran pleidleisio, yn dweud i sicrhau y caiff pobl ifanc eu hannog a'u cefnogi i arfer eu hawl i bleidleisio, dylai unrhyw ostyngiad yn yr oedran pleidleisio gael ei gyflwyno law yn llaw ag addysg briodol, effeithiol ac amhleidiol ym maes gwleidyddiaeth a dinasyddiaeth. Argymhellodd y Panel:
Rhaid i'r addysg ddinasyddiaeth a ddarperir i gyd-fynd ag unrhyw ostyngiad yn yr oedran pleidleisio:
i Gydnabod yr amrywiaeth o leoliadau lle caiff pobl ifanc 16 ac 17 oed addysg a hyfforddiant, er mwyn sicrhau bod y rhai y tu allan i leoliadau ysgol traddodiadol hefyd yn cael eu cefnogi a'u hannog i fwrw'u pleidlais;
ii Mynd ymhellach na dim ond amlinellu'r strwythurau democrataidd a'r prosesau ffurfiol, er mwyn ennyn diddordeb a hysbysu pobl ifanc am y materion sy'n bwysig iddynt;
iii Sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfleoedd i ddysgu am yr amrywiaeth lawn o safbwyntiau gwleidyddol mewn ffordd amhleidiol;
iv Cael ei darparu gan athrawon ac addysgwyr sydd wedi cael hyfforddiant o ansawdd uchel eu hunain er mwyn sicrhau bod yr addysg ddinasyddiaeth yn cael ei chymryd o ddifrif, ac i osgoi rhagfarn wleidyddol a'r canfyddiad o ragfarn wleidyddol;
v Cael ei hadolygu ar ôl cyfnod addas i sicrhau bod ei dyluniad a'r modd y caiff ei chyflawni yn bodloni'r amcanion.
Mae'r Gweinidog Addysg yn nodi yn ei llythyr at y Pwyllgor ei bod wedi cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd, Alun Davies, a Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, i drafod sut i gefnogi'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau Drafft sy'n bwriadu gostwng yr oedran pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol i 16, ac argymhelliad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol. Dywedodd y bydd yn gwneud datganiad ar hyn 'yn y flwyddyn newydd' (2019).
4. Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, 'Clywed Ein Lleisiau'
Cydlynodd Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru brosiect o'r enw Clywed Ein Lleisiau yn 2018. Roedd wedi gofyn am farn bron i 200 o bobl ifanc ar addysg wleidyddiaeth. Cafodd rhestr o saith cynnig ei chyflwyno i'r Gweinidog Addysg ym mis Tachwedd 2018, sef:
§ Gwersi statudol ar hanfodion democratiaeth;
§ Pecyn cymorth annibynnol i helpu athrawon i gyflwyno'r sesiynau hyn mewn ffordd ddiddorol a heb fod yn bleidiol;
§ Yr angen am amser i drafod a dadlau materion cyfoes yn ystod y diwrnod ysgol;
§ Cysylltiad agosach rhwng ysgolion a gwleidyddion etholedig;
§ Etholiad cenedlaethol ffug, sy'n rhedeg ar yr un pryd ag etholiadau'r Cynulliad, lle byddai pobl ifanc yn gallu 'ymarfer' pleidleisio a thrafod eu hymgeiswyr lleol;
§ Yr angen i addysgu gwersi bywyd 'go iawn' fel talu biliau, cofrestru i bleidleisio a gwybodaeth am drethi;
§ Adnodd ar-lein ar gael yn ystod yr etholiad i roi gwell dealltwriaeth o'r ymgeiswyr sy'n sefyll.
Dywedodd y Gweinidog yn ei llythyr i'r Pwyllgor y byddai'n ymateb yn ffurfiol 'yn gynnar yn y flwyddyn newydd'.
5. Deiseb yn y Pedwerydd Cynulliad
Ym mis Tachwedd 2013, trafododd y Pwyllgor Deisebau ddeiseb yn galw am wneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg (P-04-516) fel rhan o'r cwricwlwm mewn ysgolion. Gofynnodd y Pwyllgor am farn y Gweinidog Addysg a Sgiliau a ymatebodd (Ionawr 2014) yn gosod y sefyllfa bresennol a bod y cwricwlwm am gael ei adolygu. Ysgrifennodd y Gweinidog at y Pwyllgor eto ym mis Mawrth 2014 yn nodi sut caiff gwleidyddiaeth ei chyflwyno drwy Fagloriaeth Cymru bryd hynny. Yn dilyn cyhoeddi Adroddiad yr Athro Donaldson, ysgrifennodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau at y Pwyllgor yn nodi'r ffyrdd y bydd rhanddeiliaid yn gallu cyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm newydd, a chafodd y ddeiseb ei chau ar 13 Medi 2016.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |